Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 6 Rhagfyr 2021
Amser:
09.30 -
10.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12504
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Vikki Howells AS (Cadeirydd) Andrew RT Davies AS Heledd Fychan AS John Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
2 Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd - ymgynghoriad drafft
2.1 Trafododd y Pwyllgor y weithdrefn ddrafft ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd, a chytunodd arni.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi'r ymgynghoriad ar ddechrau'r flwyddyn newydd.
3 Papur cwmpasu ar ymchwiliad i lobïo
3.1 Trafododd y Pwyllgor bapur cwmpasu ar gyfer ei ymchwiliad i lobïo.
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i drafod dogfen ymgynghori ddrafft yn y flwyddyn newydd.
3.3 Cytunodd y Pwyllgor i gyhoeddi'r ymgynghoriad hwn unwaith y bydd yr ymgynghoriad ar y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd wedi cau.
4 Gohebiaeth gan y Prif Weithredwr ar Reol Sefydlog 3 ar gofnodi cyflogaeth aelodau'r teulu gyda chymorth arian y Comisiwn
4.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd gan Brif Weithredwr Comisiwn y Senedd, a chytunodd i ymateb i’r ohebiaeth honno, gan ofyn am ragor o wybodaeth.
5 Ystyried adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i)
5.1 Trafododd y Pwyllgor adroddiad gan y Comisiynydd Safonau yn unol â Rheol Sefydlog 22.2(i).